P-04-616
Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd
Testun y ddeiseb
Rydym am ofyn am newid i’r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau mai
digwyddiadau trwyddedig yn unig a all drefnu arddangosiadau
tân gwyllt a defnyddio tân gwyllt. Rydym am i’r
arfer o werthu tân gwyllt i’r cyhoedd yn gyffredinol
gael ei wahardd. Rydym am i’r cyhoedd yn gyffredinol gael eu
gwahardd rhag defnyddio tân gwyllt. Fel y gwyddom, ers
dathliadau’r Mileniwm, nid yw tân gwyllt bellach yn
ddigwyddiad ‘unwaith y flwyddyn’ yn unig. Bob blwyddyn,
caiff tân gwyllt ei danio am fwy nag wythnos cyn 5 Tachwedd,
ac yn gyffredinol byddant yn parhau i danio’n achlysurol nes
dathliadau’r Flwyddyn Newydd, pan fyddant ar eu hanterth
unwaith eto. Caiff plant ac oedolion eu hanafu bob blwyddyn gan
dân gwyllt a gaiff ei danio gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Gall defnyddio tân gwyllt mewn lleoliad domestig, nad oes
ynddo unrhyw gamau rheoleiddio na pherson proffesiynol cymwys
sy’n gyfrifol am y tân gwyllt, fod yn angheuol, ac mae
hynny wedi’i brofi. Yn ychwanegol, rhaid ystyried yr
anifeiliaid anwes diamddiffyn, druan. Yn ôl ffigurau’r
RSPCA ar gyfer 2013, mae oddeutu 22 miliwn o anifeiliaid anwes yn
ein cartrefi yn y DU - ar gyfartaledd oddeutu un ym mhob dau
dŷ. Gall unrhyw berchennog anifail anwes ddeall yr arswyd a
achosir gan dân gwyllt mewn gardd cymdogion, lle nad oes
rheolaeth. Gall tân gwyllt fod yn rhywbeth gwych i edrych
ymlaen ato. Ond fel y mae, mae llawer o bobl yn ofni amser a oedd
unwaith yn amser hwyliog a hapus o’r flwyddyn. Helpwch ni
a’n hanifeiliaid anwes i deimlo’n ddiogel unwaith
eto.
Prif ddeisebydd:
Kathy Peart
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:
110